Ysgol Y Tymbl

	
		
	
	
	

ESTYN 2022

Adroddiad – cliciwch yma

Datganiad o Genhadaeth

Yn Ysgol Y Tymbl bachwn ar bob cyfle i ymwreiddio brwdfrydedd a chwilfrydedd ym mhob unigolyn i fod yn hyderus â sgiliau eang, i fynnu disgwyliadau uchel gydag agwedd a pherthynas gadarnhaol, i ehangu gorwelion ac i fod yn addysgwyr effeithiol.

Anogwn gydweithrediad a chefnogaeth y rhieni a’r gymuned gyfan wrth ymgysylltu â thaith ddysgu pob unigolyn. Anelwn tuag at feddyliau creadigol, gwneud penderfyniadau doeth, agwedd barchus, corff a meddwl iach a byw bywyd llawn gan gyfrannu’n effeithiol i’r gymdeithas a’u dysgu gydol oes.

Mae’r ysgol yn darparu addysg i blant rhwng 3 – 11 oed. Lleolir yr ysgol yn Heol y Neuadd sydd yn agos at ganol y pentref. Agorwyd yr ysgol yn 1913.

Ers Tachwedd 2015, mae Ysgol Y Tymbl wedi ei ffedereiddio gydag Ysgol Llechyfedach. Mae un Corff Llywodraethol ac un pennaeth i’r ddwy ysgol.

Nodau

Creu awyrgylch hapus sy’n hybu datblygiad meddyliol, emosiynol, corfforol, cymdeithasol ac ysbrydol pob plentyn i’r eithaf posib.

Meithrin ymhob plentyn yr awydd i ddysgu a chynyddu ei wybodaeth.

Cynnig cyfleoedd i bob plentryn ddatblygu i’w lawn botensial drwy rhaglen eang o brofiadau cyffrous, diddorol a pherthnasol.

Meithrin hunan barch a pharch at eraill gan ddatblygu agweddau a gwerthoedd cadarnhaol.

Sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad i gwricwlwm a rhaglenni dysgu eang a chytbwys.

Datblygu sgiliau iaith yn ei amrywiol ffurfiau, er mwyn i’r plant allu cyfathrebu’n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys gwrando a siarad, darllen ac ysgrifennu.

Datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o’r cysyniadau rhif.

Creu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad plentyn o’i gymuned, iaith, traddodiadau a’r amgylchedd.

Creu ymwybyddiaeth o’r angen am lendid personol, ymddangosiad, cwrteisi, moesau ac ymddygiad da.

Meithrin cysylltiadau agos rhwng yr ysgol, y cartref a’r gymuned.

Cwricwlwm i Gymru

Cliciwch yma ar gyfer crynodeb o’r Cwricwlwm i Gymru Ffederasiwn Ysgolion Llechyfedach a’r Tymbl.

Cliciwch yma ar gyfer mwy o wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru.

EIN GWELEDIGAETH TECHNOLEG GWYBODAETH a CHYFATHREBU

Anelwn yn Ysgol Y Tymbl i ddefnyddio holl agweddau TGCh i symbylu, ymrwymo ac ysbrydoli disgyblion, rhieni, llywodraethwyr ac athrawon i hybu’r dysgu a’r addysgu yn a thu hwnt i gyffiniau’r ysgol. Rydym am i’n holl staff a’n disgyblion i fod yn ddefnyddwyr TGCh hyderus, cymwys ac annibynnol gyda’r gallu i addasu eu sgiliau i gwrdd a datblygiadau technolegol newydd.

Y Cwricwlwm Newydd – gwyliwch y fideo yma.

Presenoldeb

Gwrthod caniatad

LA_School_Attendance_Partnership_Agreement_-_Bilingual