Hen Newyddion


NEWYDDION TYMOR YR HAF 2010
Agorodd yr ysgol am Dymor yr Haf ddydd Mawrth, Ebrill 20fed yn dilyn pythefnos o Wyliau braf iawn. Dechreuodd wythy o blant ifanc yn y dosbarth Derbyn – Nicole Hernandez, Amelia Davies, Gwenllian Allen, Kodie Elward, Wayne Rees, Connor Evans, Iestyn Davies a Finley Davies. Mae 130 o ddisgyblion yn yr ysgol erbyn hyn.

Nid oedd Mrs. Delyth Thomas, Gwenllian na Dafydd yn bresennol am eu bod yn Sbaen ac yn methu a dod adref o’u gwyliau. Roedd y llwch o’r llosgfynydd yng Ngwlad yr Ia wedi rhoi stop ar yr awyrennau oedd yn hedfan dros Brydain a mwyafrif Ewrop.


Bu ffotograffydd o gwmni FINESSE yn tynnu lluniau yn yr ysgol ddydd Mercher Ebrill 21ain. Bydd y ‘proofs’ yn barod i’w dosbarthu yn ystod yr wythnosau nesaf.


Mae Gwersi Nofio wedi dechrau i blant Blynyddoedd 5 a 6 am y tymor. Byddant yn cymryd lle yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin bob prynhawn Mawrth am y tymor cyfan.


Bu rhai o blant Blwyddyn 6 yn cymryd rhan yn y GALA NOFIO a drefnwyd yn y Ganolfan Hamdden, Caerfyrddin ddydd Gwener Ebrill 30ain. Ysgolion y Mynydd Mawr oedd yn cystadlu. Fe wnaeth y plant fwynhau’r profiad yn fawr iawn er na chafwyd llwyddiant y tro hwn.


Croesawyd dau ddisgybl newydd i’r ysgol ddydd Mercher Mai 5ed. Mae Marc Grove (Blwyddyn 5) a’i chwaer Megan Nicholson (Blwyddyn 2) wedi symud i fyw i’r Tymbl o ardal Abertawe. Mae 132 o blant erbyn hyn ar gofrestr yr ysgol.


Cynhaliwyd Cystadleuaeth Peldroed Ysgolion Cwm Gwendraeth i’r merched ar Barc Y Tymbl, ddydd Mercher Mai 5ed. Trefnwyd y cyfan gan Mr. Steven Hewitt un o staff yr ysgol. Llwyddodd Tymbl A am yr ail flwyddyn yn olynnol i ennill y gystadleuaeth. Yn y tim llwyddiannus oedd Whitney Hardy, Ffion Griffiths, Sasha Smith, Olivia Murphy, Jasmine Hopkins, Chloe Evans a Llinos Rees. Roedden nhw wedi ennill eu gemau i gyd. Fe wnaeth Tymbl B gystadlu hefyd. Yn y tim oedd Chelsie Walters, Alex Evans, Angharad Williams, Hannah Evans, Megan Samuel, Chloe Totterdale, Bethany fFear, Gwenllian Thomas a Sophie Staley. Cawson nhw un gem gyfartal ond colli tair. Serch hyn fe wnaethon nhw fwynhau’r profiad. Y dyfarnwyr oedd cyn ddigyblion o Ysgol Y Tymbl sydd nawr yn Ysgol Maes yr Yrfa.

Roedd rhaid gohirio’r gystadleuaeth i’r bechgyn a oedd i’w chynnal ddydd Iau Mai 6ed oherwydd y tywydd gwlyb. Caiff ei ail drefnu maes o law.


Llongyfarchiadau i ddwy o’r ysgol a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Mynyddygarreg ar nos Wener Mai 7fed. Daeth Ffion Griffiths yn fuddugol yn yr Unawd i Blant Bl. 5 a 6 ac hefyd yn y Ddawns Disgo Unigol dan 12 oed. Llwyddodd Chelsie Walters i ddod yn drydydd yn y Ddawns Disgo dan 12 ac yn drydydd hefyd yn y gystadleuaeth llefaru Bl. 5 a 6.


Bu plant y dosbarth Derbyn yn cystadlu ym Mabolgampau Meithrin a Derbyn Gŵyl Y Gwendraeth a gynhaliwyd ddydd Llun Mai 10fed ar Barc Pontyberem. Menter Cwm Gwendraeth oedd wedi trefnu’r mabolgampau fel rhan o weithgareddau Gŵyl y Gwendraeth. Fe wnaeth y plant fwynhau’r profiad, y mwyafrif ohonynt yn rhedeg mewn mabolgampau am y tro cyntaf.


Ar ddydd Sadwrn Mai 15fed bu Tîm Pêldroed 7 bob ochr y Merched yn cystadlu yn Rowndiau Cenedlaethol Urdd Gobaith Cymru a gynhaliwyd ar gaeau chwarae Blaendolau, Aberystwyth.

Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynnol i’r ysgol gyrraedd y rowndiau terfynol a’r flwyddyn orau o rhan canlyniadau. Yn y gêmau grŵp, Ysgol Y Tymbl ddaeth allan ar y brîg heb golli gêm a heb adael gôl i fewn. Llwyddwyd i drechu Ysgol Penygloddfa, Ysgol Dolgellau ac Ysgol Bro Banw a chael gêm gyfartal yn erbyn Ysgol Bro Eirwg. Yn y gêm gyn-derfynol, colli fu’r hanes i Ysgol Oystermouth, Abertawe mewn gêm hynod o agos 1-0. Aelodau’r garfan oedd Olivia Murphy, Chloe Evans, Alison Davies, Jasmine Hopkins, Whitney Hardy, Ffion Griffiths, Llinos Rees a Sasha Smith. Yr hyfforddwr oedd Mr. Steven Hewitt. Er ei siom, gallant fod yn falch iawn o’u perfformiadau yn ystod y gystadleuaeth.


Derbyniodd rhai o blant yr adran Iau hyfforddiant Tennis yn Ysgol Maes yr Yrfa ddydd Llun Mai 17ed gan Mari-Ann Jones, aelod o staff Campau’r Ddraig. Byddant yn mynd ymlaen nawr i gystadleuaeth tennis yn Llanelli.


Bu rhai o blant Blynyddoedd 4 a 5 yn chwarae rygbi dros yr ysgol mewn twrnament adnabod chwaraewyr a gynhaliwyd yn Ysgol Pontyberem, ddydd Iau Mai 20fed. Pwrpas y weithgaredd oedd rhoi cyfle i hyfforddwyr Carfan y Mynydd Mawr i ddod i adnabod talent i garfan Mynydd Mawr am y flwyddyn sydd i ddod. Fe wnaeth y plant fwynhau’r cyfle i chwarae gan ennill tair allan o bedair gem.


Bu tim o’r ysgol yn chwarae mewn Gwyl Tennis a drefnwyd gan staff Campau’r Ddraig ar gyrtiau tennis Clwb Tennis Llanelli ddydd Gwener Mai 21ain. Menter newydd oedd hyn yn dilyn yr wyl a gynhaliwyd yn lleol yn Ysgol Maes yr Yrfa. Fe wnaeth y plant fwynhau’r profiad o chwarae tennis yn erbyn ysgolion eraill. Aelodau’r tim oedd Daniel Conibeer, Steffan Williams, Iestyn Jones, Alex Jones, Hawys Davies, Sasha Smith, Llinos Rees, Whitney Hardy, Elis Williams, Rhydian Davies, Rhys Sutton, Rhys Cokeley, Ffion Griffiths, Olivia Murphy a Bethany Flear.


Dydd Llun Mai 24ain. Dechreuodd dau blentyn newydd yn yr ysgol wedi symud i fyw i’r Tymbl. Roedd y ddau yn ddisgyblion yn Ysgol Carwe. Mae Samuel Williams yn y dosbarth Derbyn a Lydia Muir ym Mlwyddyn 3. Mae 134 o blant yn yr ysgol erbyn hyn.


Mae dwy fyfyrwraig o Ysgol Y Gwendraeth Natalie Lloyd ac Amy Jones yn treulio wythnos yn yr ysgol (Dydd Llun Mai 24ain – Dydd Gwener Mai 28ain) fel rhan o’u profiad gwaith.


Bu Mr. Eifion Collins o Gwmni XL WALES yn yr ysgol am ddeuddydd – Dydd Mawrth Mai 25ain a dydd Mercher Mai 26ain yn cymryd gweithdai Gwyddonol a Thechnolegol gyda’r holl ddosbarthiadau yn yr ysgol. Dyma un o’r cyflwyniadau gorau sydd yn ymweld a ni, sy’n denu ymateb brwdfrydig y plant. Cafodd y plant gyfleoedd i weithio ar heriau dyfeisio amrywiol gan ddatrys y problemau a osodwyd iddynt trwy ddefnyddio offer adeiladu K’NEX. Ymhlith yr heriau oedd dyfeisio lifft i godi glo allan o waelod y pwll; trap llygod; goleudy tal a pheiriant i symud llwyth trwm. Roedd y dosbarth Derbyn wrth eu bodd yn creu blodau gyda’r offer K’NEX. Bu’n ddiwrnod da dros ben ac yn brofiad gwych i bob plentyn.


Ar ddydd Mawrth Mehefin 1af bu rhai o blant yr ysgol yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru a gynhaliwyd yn Llanerchaeron, Ceredigion. Roedd Chelsie Walters yn cynrychioli Gorllewin Myrddin yn y gystadleuaeth Dawnsio Disgo Unigol ac yna’r Grŵp yn cystadlu yn y gystadleuaeth Dawnsio Disgo i ddisgyblion Blwyddyn 6 ac iau. Er iddynt rhoi perfformiadau graenus a safonol yn y rhagbrofion, ni chafwyd llwyddiant y tro hwn. Aelodau’r grŵp oedd Chelsie Walters, Hawys Davies, Gwenllian Thomas, Jasmine Hopkins, Megan Samuel a Ffion Griffiths. Roedd y profiad o gystadlu yn y Genedlaethol yn un arbennig serch hynny. Yn gyfrifol am baratoi’r merched oedd Miss Hazel Harries a Miss Laura Holly.


Ar Nos Lun Mehefin 7fed bu cynrychiolaeth dda o blant Blynyddoedd 5 a 6 yn perfformio mewn Cyngerdd PROMS Llanelli a gynhaliwyd yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli. Roedden nhw’n rhan o Fand Pres mawr Sir Gaerfyrddin a oedd yn cynnwys plant o ysgolion cynradd ar draws y Sir. Fe wnaeth y plant fwynhau’r profiad yn fawr iawn.


Ar Nos Fawrth Mehefin 8fed bu cynrychiolaeth dda o blant Blynyddoedd 5 a 6 yn perfformio mewn Cyngerdd PROMS arall – Proms Caerfyrddin a gynhaliwyd yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli. Roedden nhw’n rhan o’r Gerddorfa Arall – Recorders a Thelynau. Cafwyd eitemau safonol iawn ganddynt gyda’r plant unwaith eto wedi mwynhau’r cyfle i fod yn rhan o ensemble mawr.


Ar ddydd Gwener, Mehefin 11eg bu cynrychiolydd o Ganolfan Adar Ysglyfaethus Cymru yn yr ysgol i rhoi cyflwyniadau i’r Babanod a’r Iau. Roedd ganddo nifer amrywiol o adar ysglyfaethus er mwyn addysgu’r plant amdanyn nhw. Uchafbwynt y cyflwyniad oedd cyfle i rhai plant gael dal yr aderyn mwyaf – Tylluan Eryr Ewrasia. Fe wnaeth y plant elwa’n fawr o’r sesiynau diddorol gan ddysgu llawer o wybodaeth am adar ysglyfaethus.


Bu nifer o blant yr ysgol o Flwyddyn 6 yn rhan o’r PROM YN Y PARC a gynhaliwyd yn yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne ddydd Sadwrn Mehefin 12fed. Trefnwyd yr achlysur gan Wasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin. Roedd y plant yn rhan o Gôr Ysgolion Dinefwr-Gwendraeth, un o dri chôr oedd yn perfformio yn yr awyr agored. Roedd Côr Ysgolion Llanelli a Chôr Ysgolion Caerfyrddin hefyd yn perfformio. Unodd y côrau i gyd i berfformio’r eitemau olaf. Roedd y perfformiadau yn rhai diddorol a safonol iawn gyda chynulleidfa luosog wedi gwerthfawrogi’r eitemau. Yn cynrychioli’r ysgol oedd Chelsie Walters, Hawys Davies, Alex Evans, Shauna Lee, Corey Evans, Owain Williams, Sam Cavill, Steffan Williams ac Ifan Samuel.


Bu nifer o blant yr ysgol yn rhoi adloniant i aelodau’r henoed sydd yn cwrdd am ginio yn Neuadd Y Tymbl (Luncheon Club)ddydd Mawrth Mehefin 15fed. Yn wyneb toriadau’r Cyngor Sir, braf oedd gweld bod y Clwb Cinio yn mynd i barhau dan adain Cyngor Cymuned Llannon. I lawnsio’r achlysur, braf oedd gweld y Cor yn perfformio, rhai offerynwyr a’r dawnswyr disgo hefyd. Roedd yr adborth yn un calonogol iawn.


Daeth Nyrs yr Ysgol i’r ysgol ddydd Iau Mehefin 17fed i rhoi cyflwyniad diddorol i’r plant ym Mlwyddyn 6 ar agweddau o Addysg Rhyw a newidiadau i’r Corff.


Ar brynhawn dydd Iau Mehefin 17ed bu plant Blynyddoedd 5 a 6 lawr i Ysgol Pontyberem i dderbyn hyfforddiant canu. Roedd hyn yn rhan o drefniant y prosiect canu CanSing a’r plant yn derbyn hyfforddiant wrth Elin Llwyd. Tra’r oedd hanner y plant yn canu roedd yr hanner arall yn mwynhau gweithgareddau athletaidd allan ar gae Ysgol Pontyberem.


Bu Scott, hyfforddwr o Gwmni EVOLVE SPORT yn cymryd gweithdai Peldroed gyda holl blant yr ysgol ddydd Gwener Mehefin 18fed. Cafodd pob dosbarth gyfle i dderbyn hyfforddiant gwella sgiliau ac i chwarae gemau byr yn erbyn eu gilydd. Trefnwyd y weithgaredd i gyd-fynd a Chwpan Y Byd yn Ne Affrica.


Ar ddydd Sadwrn, Mehefin 19ed bu dau dîm o’r ysgol yn cystadlu mewn twrnament pêldroed a drefnwyd gan Glwb Pêldroed Bancffosfelen ar gae Ysgol Pontyberem.

Llwyddodd tîm y Merched dan 11 oed i ennill y gêmau grŵp i gyd ar wahan i un gêm gyfartal. Mewn gêm derfynol hynod o agos fe wnaethon nhw golli o 1-0 yn erbyn tîm Johnston o Sir Benfro. Gallan nhw fod yn falch iawn o’u perfformiadau gan gofio eu bod yn chwarae yn erbyn clybiau ac nid ysgolion. Aelodau’r garfan oedd Olivia Murphy, Jasmine Hopkins, Alison Davies, Ffion Griffiths, Sasha Smith, Whitney Hardy, Chloe Evans, Lydia Muir a Llinos Rees. Ni chafodd tîm y bechgyn cystal hwyl arni gan golli pob gêm mewn grŵp safonol. Aelodau’r garfan oedd Steffan Williams, Alex Jones, Iestyn Jones, Elis Williams, Rhydian Davies, Jack Griffiths, Patrick Walters, Ifan Samuel, Daniel Conibeer a Lewis Moore.

Fe wnaeth y chwaraewyr i gyd fwynhau’r profiad. Yn gyfrifol am hyfforddi’r ddau dîm oedd Mr. Steven Hewitt.


Cafodd hanner y disgyblion ym Mlwyddyn 6 hyfforddiant Cymhwyster Beicio yn ystod Dydd Llun, Mehefin 21ain. Roedd yr hyfforddiant dan ofal Mrs. Tracey Lewis o Adran Diogelwch y Ffordd. Fe wnaeth y plant gael diwrnod da ar eu beiciau mewn tywydd braf. Llwyddodd pob un i basio’r asesiad.


Bu’n ddiwrnod llwyddiannus dros ben i’r ysgol ym Mabolgampau Blynyddol Ysgolion Cylch Y Mynydd Mawr a gynhaliwyd ar gae Ysgol Pontyberem, ddydd Iau Mehefin 24ain. Llwyddodd y tîm i ennill Tarian Mansel Lloyd am yr ysgol uchaf ei marciau yn yr holl gystadlaethau. Fe wnaeth yr ysgol hefyd lwyddo i ennill Cwpan Sheila Thomas am i fechgyn adran y Babanod gasglu’r marciau uchaf i blant dan 7 oed. Bu’n ddiwrnod hynod o lwyddiannus i’r merched gan iddynt lwyddo i ennill Tarian June Morgan am y tîm merched gorau. Fe wnaethon nhw ennill y Râs Gyfnewid a’r Râs Cylch a dod yn ail yn y Râs Adain Olwyn. Yn y tîm oedd Llinos Rees, Ffion Griffiths, Chloe Totterdale, Sasha Smith, Sophie Staley a Whitney Hardy. Cafwyd nifer o berfformiadau unigol arbennig yn y rasys syth – Iestyn Gwilliam (1af – Bl.1), Osian Evans (2il – Bl. 2), Kieran Jones (2il – Bl.3), Ffion Griffiths (1af – Bl. 5), Elis Williams (3ydd – Bl.6), Llinos Rees (1af – Bl.6), Ffion Griffiths (1af – Ras Agored), Llinos Rees (2il – Ras Agored).


Ar ddydd Gwener, Mehefin 25ain bu’r adran Iau ar ymweliadau addysgol. Bu plant Blynyddoedd 3 a 4 i Ganolfan Bywyd Gwyllt Manor House ger Dinbych y Pysgod tra bod plant Blynyddoedd 5 a 6 wedi bod i Sŵ Bryste. Gyda’r tywydd braf yn hwyluso’r trefniadau, cafodd y ddau grŵp ddiwrnod i’w gofio a phrofiadau gwerthfawr.


Cafodd Mrs. Sheila O’Neill o Siop Trîn Gwallt Sheila a Tracey ei gwahodd i’r ysgol ar ddydd Llun Mehefin 28ain er mwyn dangos ein diolch a’n gwerthfawrogiad am y rhodd a dderbyniodd yr ysgol yn ddiweddar. Casglwyd arian yn y siop wallt trwy ‘Bonus Ball’ y Loteri gyda’r elw o £500 yn cael ei drosglwyddo i’r ysgol.


Fe wnaeth plant Blynyddoedd 3 a 4 fwynhau Cyngerdd amrywiol o adloniant gan athrawon teithiol Gwasanaeth Cerdd Y Sir draw yn neuadd Ysgol Y Gwendraeth ddydd Mawrth Mehefin 29ain.


Cafodd plant y Babanod a phlant yr Adran Iau gyflwyniadau diddorol ar Ddiogelwch Tan, dan arweiniad Mrs. Elinor Goldsmith, Swyddog Addysg Y Gwasanaeth Tan ddydd Iau, Gorffennaf 1af. Fe wnaeth y plant dderbyn negeseuon pwysig a chael cyfle hefyd i ddysgu am fywyd a gwaith dynion tan.


Bu plant Adran y babanod ar ymweliad addysgol diddorol dros ben i FFERM FFOLI ddydd Gwener Gorffennaf 2il. Cawson nhw brofiadau cyffrous iawn. Ar yr un diwrnod bu plant yr Adran Iau i weld perfformiad cwmni Theatr Arad Goch o’r sioe BECA yn Neuadd Pontyberem. Hanes Merched Beca yn ymosod ar y tollbyrth oedd y sioe a’r plant wedi mwynhau’r adloniant yn fawr iawn.


Cynhaliwyd MABOLGAMPAU’R YSGOL ar gae’r ysgol prynhawn dydd Iau Gorffennaf 8fed. Roedd cefnogaeth dda o rhieni a ffrindiau’n bresennol ac fe fu’n ddiwrnod llwyddiannus. Tro’r TIM GWYRDD oedd hi eleni i ennill CWPAN HILARY DAVIES am y tim a’r marciau uchaf yn yr holl gystadlaethau.


Bu’r Heddwas Ernest Gronow o Heddlu Dyfed-Powys i’r ysgol ar fore dydd Gwener Gorffennaf 9fed i gymryd gweithdai gyda thri o’r dosbarthiadau. Cafodd y plant gyfleoedd gwerthfawr i drafod materion megis Ymddygiad a Diogelwch ar y Rhyngrwyd.


Gall Tîm Pêldroed 7 bob ochr y Merched fod yn falch iawn o’u perfformiadau yng nghystadleuaeth Pêldroed Ysgolion Clwb Pêldroed Tref Caerfyrddin a gynhaliwyd ar gae Parc Waundew, ddydd Sadwrn Gorffennaf 10fed. Fe wnaethon nhw rhannu’r Cwpan gydag Ysgol Dewi Sant, Llanelli. Llwyddodd y merched i ennill y gêmau grŵp i gyd yn erbyn Ysgolion Llangynnwr, Treioan a Nantgaredig. Bu’n rhaid cael ciciau o’r smotyn i drechu Ysgol Ffairfach yn y gêm gyn-derfynol cyn cwrdd a Dewi Sant yn y rownd derfynol. Ar ôl amser ychwanegol a chiciau o’r smotyn nid oedd modd gwahanu’r ddau dîm. Cytunodd y trefnwyr a’r hyfforddwyr i rhannu’r Cwpan a chael dau enillydd. Byddai wedi bod yn greulon yn y pen draw i unrhyw un o’r ddau dîm i golli allan ar ôl gêm agos a chystadleuol. Aelodau’r garfan oedd Olivia Murphy, Jasmine Hopkins, Llinos Rees, Angharad Williams, Lydia Muir, Sasha Smith, Alison Davies, Chloe Evans a Ffion Griffiths. Dewiswyd Sasha Smith, y prif sgoriwr fel chwaraewr y twrnament. Hyfforddwr y tîm oedd Mr. Steven Hewitt.


Bu rhai o blant yr adran Iau yn diddanu’r henoed a ffrindiau o Gymdeithas Bryntawel a Darren Las yng Nghartref Preswyl Bryntawel, ddydd Llun Gorffennaf 12fed. Roedd yr adborth i’r perfformiadau’n bositif iawn. Mae’n bleser o hyd cael mynd i ganu ym Mryntawel.


Dydd Mawrth Gorffennaf 13eg oedd pinacl prosiect ‘Carnifal yr Anifeiliaid’ i blant dosbarth Mrs. Lloyd. Fe fuon nhw’n perfformio’u cyfansoddiadau mewn ‘Cyngerdd Rhannu’ a gynhaliwyd yn Ysgol Pontyberem. Roedd tair ysgol yn rhan o’r prosiect – Bancffosfelen, Pontyberem a’r Tymbl. Cafodd pob grwp o blant gyfle i berfformio’u darnau o flaen yr ysgolion eraill ac o flaen rhieni, ffrindiau a gwahoddedigion. Y farn gyffredinol wrth y rhai a oedd yn bresennol oedd bod safon y gwaith wrth yr ysgolion i gyd yn arbennig o dda. Mrs. Anwen Lloyd a Mrs. Nia Lewis oedd yn gyfrifol am baratoi plant y Tymbl.

Yn y prynhawn fe fu plant Blynyddoedd 2 – 6 i Neuadd Pontyberem, lle bu SINFONIA CYMRU yn perfformio’r gwaith ‘Carnifal yr Anifeiliaid’ gan y cyfansoddwr Saint-Saens. Wrth i’r gerddoriaeth gael ei chwarae gwelwyd lluniau o’r anifeiliaid yn ymddangos ar sgrin fawr ar wal y llwyfan. Plant yr ysgolion oedd wedi bod wrthi’n creu’r lluniau. Bu’n brynhawn diddorol iawn ac yn brofiad newydd i mwyafrif y plant.


Derbyniodd GRWP 2 ym Mlwyddyn 6 hyfforddiant BEICIO ddydd Mercher a Dydd Iau Gorffennaf 14eg a 15fed dan arweiniad Mrs. Tracey Lewis o Adran Diogelwch y Ffyrdd. Braf yw nodi bod pob plentyn wedi llwyddo i basio’r asesiad.


Cynhaliwyd y GWASANAETH YMADAWOL ddydd Gwener Gorffennaf 16eg yn Neuadd yr ysgol lle’r oedd cefnogaeth dda o rhieni a ffrindiau’n bresennol i ffarwelio a phlant Blwyddyn 6. Cafwyd eitemau cerddorol amrywiol ac fe wnaeth plant Blwyddyn 6 trwy sgript fynd dros atgofion o’u hamser yn yr ysgol, o ddosbarth y babanod hyd at y presennol. Bu’n brynhawn hwylus iawn ac phawb wedi mwynhau.


Cafodd plant yr Adran Iau brynhawn o hyfforddiant sgiliau Rygbi a Pheldroed gan hyfforddwyr o gwmni SGILIAU 100% ddydd llun, Gorffennaf 19ed. Fe wnaethon nhw fwynhau’r sesiynau yn fawr iawn.


Diwrnod olaf y tymor oedd dydd Mawrth Gorffennaf 20fed. Bu’n gyfle i ffarwelio a dwy o’r staff. Mae Mrs. Susan Evans-Jenkins yn dechrau ar swydd newydd yn Ysgol Ffwrnes, Llanelli a Mrs. Nia Lewis yn dechrau ar swydd llawn amser yn Ysgol Gymraeg Gwenllian, Cydweli.

Hwn oedd y diwrnod olaf i 22 o ddisgyblion Blwyddyn 6. Maent yn trosglwyddo i dair ysgol …

Maes yr Yrfa – Ifan Samuel, Daniel Conibeer, Iestyn Jones, Steffan Williams, Cameron Phillips, Shauna Lee, Hawys Davies, Chelsie Walters, Chloe Evans, Alex Evans a Jasmine Hopkins.

Ysgol Y Gwendraeth – Nicholas Totterdale, Scott Bundfuss, Corey Evans, Kalum Todd, Sam Cavill, Nia Davies, Llinos Rees, Sasha Smith, Abigail Morris a Luke Thomas.

Tregib – Owain Williams.

Mae Daniel Thomas, Blwyddyn 1 yn symud i fyw i Borthyrhyd ac fe fydd yn trosglwyddo i Ysgol Llanddarog ym mis Medi.