Newyddion ECO

Mae’r ysgol wedi llwyddo i ennill y Faner Platinwm erbyn hyn. Ers llwyddo i ennill y faner gyntaf nol yn 2005, mae materion amgylcheddol a chynaliadwyedd yn uchel ar rhestr ein blaenoriaethau fel sefydliad.

Mae’r Pwyllgor Eco yn parhau i fod a rol bwysig wrth wella’r ysgol.

GWELER Y GWEITHGAREDDAU AR EIN TUDALENNAU Facebook a Twitter.

Dyma God Eco’r Ysgol

Gofalu am Ein Byd wrth

Cadw’r llwybr yn daclus- gofyn i’r Cyngor am help.

Mynd ymlaen gyda’r arfer dda o Arbed, Ailddefnyddio ac Ailgylchu. Dechrau ailgylchu batris a sbectol ail law.

Cadw ymlaen i arbed dwr, gwres ac egni.

Gofalu am fwydod yn yr abwydfa a’r biniau compost. Ail ddechrau gwerthu ‘Liquid Feed’.

Datblygu’r ardd- plannu coeden afalau a gwella’r ardal ar gyfer creaduriaid bach.

Mynd i’r Parc Coetir- creu bocsys newydd i’r adar.

Datblygu’r arfer dda o brynu cynnyrch Masnach Deg. Annog y gymuned a siopau lleol i werthu cynnyrch Masnach Deg.

Gweithio gydan ffrindiau yn Ewrop i ofalu am ein byd gyda Cywaith Gwyrddni. (Prosiect Comeniws)