Clubs

Clwb Brecwast

Mae’r Clwb Brecwast yn rhad ac am ddim i’r sawl sydd am gymryd mantais o’r brecwast. Mae’n rhaid i rieni gofrestru’r plant pan fyddant yn mynychu’r clwb am y tro cyntaf. Mae’r clwb yn agor am 8:00 y bore a’r brecwast olaf yn cael ei weini am 8:30 y bore. Mae amrywiaeth o opsiynau iach ar gael gan gynnwys sudd, grawnfwyd, ffrwythau a thost. Mae’r plant dan oruchwyliaeth tra’n mwynhau’r brecwast ac maent yn cael cyfle gwerthfawr i gymdeithasu.


Clwb Chwaraeon

Bob prynhawn Mercher yn syth ar ol y wers olaf, caiff y plant ym Mlynyddoedd 3, 4, 5 a 6 eu hannog i ymuno yng ngweithgareddau’r Clwb Chwaraeon.

Mae’r gweithgareddau’n gorffen am 4:15 y prynhawn.

Caiff y plant gyfleodd i flasu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys peldroed, rygbi TAG, pelrhwyd, rownderi, athletau, gemau tim llawn hwyl, tenis a golff.

Pe bai’n digwydd bwrw glaw, bydd y staff sydd yn gyfrifol yn trefnu gweithgareddau addas y tu mewn.

Mae’n gyfle hefyd i baratoi timoedd yr ysgol ar gyfer gwahanol gystadlaethau.


Urdd

Mae’r plant yng Nghyfnod Alweddol 2 yn cael eu hannog i ymuno a’r Urdd. Bydd dyddiadau’r tymor yn cael eu dosbarthu ar ddechrau pob tymor. Bydd gweithgareddau’r Urdd yn cymryd lle rhwng 3:30 a 4:15 y prynhawn. Bydd y staff dysgu a’r staff cynorthwyol yn eu tro yn cymryd y cyfrifoldeb am rhaglen o weithgareddau. Bydd rhain yn amrywio o gemau hwyl, chwaraeon amrywiol, cwisiau neu gelf a chrefft.

Yn ystod y flwyddyn ysgol, bydd timoedd o’r ysgol yn cystadlu mewn twrnamaintiau a chystadlaethau’r Urdd. Bydd timoedd yn cystadlu mewn peldroed, rygbi a phelrhwyd yng Nghylch y Mynydd Mawr. Os yn llwyddiannus, byddant yn mynd ymlaen i gystadlu yn Rhanbarth Gorllewin Myrddin.

Bydd plant o’r ysgol yn cael cyfleoedd hefyd i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Eisteddfod.

Mae’n arferiad i blant Blwyddyn 5 a 6 i fynychu Gwersyll yr Urdd yn Llangrannog yn flynyddol gyda phlant o ysgolion Cwm Gwendraeth.


Clwb Cwl

Clwb ar ol ysgol pob nos Lun a nos Fawrth tan 4:45. Menter Cwm Gwendraeth yw rheolwyr y clwb sy’n cyflogi hefyd wedi trafod gyda’r Pennaeth.