Mae’r ysgol yn falch iawn o’r cyngor pwysig hwn.
Caiff aelodau eu hethol gan eu cyfoedion ym mhob dosbarth ac yna mae’r swyddogion yn cael eu hethol gan y disgyblion. Mae aelodau staff yn bresennol yn y cyfarfodydd, er hyn, paratoir yr agenda yn bennaf gan y swyddogion a’r cyngor ei hun.
Mae’r cyngor yn trafod nifer o bynciau gan gynnwys cynllun datblygu’r ysgol i gefnogi’r ysgol i wella pob un o elfennau’r ysgol.