Cafodd yr ysgol arolygiad gan y Corff Arolygu ESTYN yn ystod mis Tachwedd 2013. Os ydych yn dymuno darllen yr adroddiad ewch i wefan Estyn. www.estyn.gov.uk
Mae’r ysgol wedi llwyddo i ennill BANER PLATINWM dan y Cynllun Eco-Ysgolion a chydnabyddiaeth fel YSGOL IACH dan gynllun Ysgolion Iach Sir Gaerfyrddin.
Llwyddwyd am yr ail dro i ennill y MARC SAFON mewn TECHNOLEG GWYBODAETH a CHYFATHREBU. Mae hyn yn cydnabod arferion a safonau da mewn gwaith TGCh.
Mae’r ysgol wedi cadw at safonau BUDDSODDWR MEWN POBL ers 1999 sydd yn cydnabod bod datblygiad proffesiynol parhaus y staff o fewn ein sefydliad yn bwysig dros ben i ni.
Ceir y Llyfryn Gwybodaeth i Rieni yma.